Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 23 Mai
2017
Amser y cyfarfod: 12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4292
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 12.30
Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.
Dechreuodd yr eitem am 12.34
Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, Arweinwyr y Pleidiau eraill ac Aelodau i wneud cyfraniadau. Yn dilyn hynny, galwodd y Llywydd ar Julie Morgan i siarad, cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.
Am 13.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 12 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.
Dechreuodd yr eitem am 14.05
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 - 9. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.51
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;
2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.
Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;
2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru;
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl; a
4. Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.
Derbynwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 24 Mai 2017